Croeso
Croeso i wefan yr Ombwdsmon Pensiynau.
Byddwn yn ymchwilio i gwynion am y ffordd y rhedir cynlluniau pensiynau. Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim i bobl sydd â chwyn yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am redeg neu weinyddu cynlluniau pensiynau.
Gallwn hefyd ystyried rhai materion a godir gan ymddiriedolwyr neu reolwyr cynlluniau pensiynau a chyflogwyr sy’n cymryd rhan.
Mae ein gwefan yn dweud rhagor wrthoch chi:
- amdanom ni fel corff;
- pwy sy’n cael cwyno;
• yr hyn y gall ac na all yr Ombwdsmon ymchwilio iddo;
• ein prosesau.
Gallwch hefyd chwilio penderfyniadau ffurfiol blaenorol (a elwir yn “Penderfyniadau”). Ein rôl yw ymchwilio i, a phenderfynu ar, gwynion am bensiynau rhwng aelodau cynlluniau pensiynau (gan gynnwys pensiynau personol) neu eu buddiolwyr,
cyflogwyr, ymddiriedolwyr, rheolwyr a gweinyddwyr cynlluniau. Nid ydym yn rheolydd (“corff gwarchod”) neu eiriolwr defnyddwyr neu gorff masnach. Byddwn yn datrys cwynion pensiynau, heb gymryd ochr. Felly pan fyddwn yn edrych ar gŵyn, byddwn yn delio'n deg â phob ochr. Rydym yn hollol annibynnol a diduedd.
Sefydlwyd yr Ombwdsmon Pensiynau gan Ddeddf Seneddol a ddaeth yn weithredol o Ebrill 1991. Mae'r pwerau a darpariaethau statudol sy'n ein rheoli ar hyn o bryd i'w
gweld yn adrannau 145-152 Deddf Cynlluniau Pensiynau 1993 (fel y'i diwygiwyd) sy'n ffurfio Rhan X o'r Ddeddf honno. Ategir y rhain gan Reoliadau.
Mae’r Ombwdsmon Pensiynau’n berson a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Tony King yw’r Ombwdsmon Pensiynau ar hyn o bryd. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd benodi Dirprwy Ombwdsmon Pensiynau, sydd â’r un pwerau â’r Ombwdsmon Pensiynau. Jane Irvine yw'r Dirprwy Ombwdsmon Pensiynau ar hyn o bryd.
Mae’r
Ombwdsmon
Pensiynau’n penodi staff i helpu i gynnal ymchwiliadau a chyflawni ei swyddogaethau. Ar hyn o bryd mae tua 35 o staff yn cael eu cyflogi mewn amrywiaeth o rolau.
Mae unrhyw benderfyniad gan yr Ombwdsmon Pensiynau a’i Ddirprwy yn benderfyniad terfynol ac yn gyfreithiol rwymol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth yn Gymraeg am ein gwasanaethau mae croeso i chi gysylltu â ni.